P-05-812 Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Keir Harding ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf yn ystod Mai 2018, ar ôl casglu 812 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.
Cyhoeddwyd dogfen o’r enw No Longer a Diagnosis of Exclusion, a oedd yn amlygu bod y rhai a gafodd ddiagnosis o anhwylder personoliaeth yn cael eu cam-drin, yn 2003.
Cyhoeddwyd canllawiau NICE ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol
yn 2009. Naw mlynedd yn ddiweddarach, ac mae llai na hanner
ymddiriedolaethau Cymru yn darparu gwasanaethau sy’n
cydymffurfio â’r canllawiau. Mae hyn yn cymharu ag 84 y
cant yn Lloegr.
Mae pobl sydd â’r diagnosis hwn yn aml yn dod o
gefndiroedd o gamdriniaeth ac esgeulustod.
Bydd 1 o bob 10 o bobl gyda’r diagnosis hwn yn marw drwy
hunanladdiad.
Darganfu’r Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ddynladdiad
a Hunanladdiad, o’r 1 o bob 10 o bobl a derfynodd eu bywydau
dros gyfnod eu hastudiaeth, nid oedd yr un ohonynt yn derbyn gofal
a argymhellir gan NICE.
Mae arbenigwyr yn y maes yn rhybuddio y bydd
ymddiriedolaethau iechyd nad oes ganddynt wasanaethau arbenigol yn
or-ddibynnol ar driniaeth breifat y tu allan i’r ardal.
Cefnogwyd y farn hon gan gynrychiolwyr o ymddiriedolaethau nad oes
ganddynt wasanaethau arbenigol yn y gynhadledd Anhwylder
Personoliaeth Cymru yng Nghaerdydd yn 2016.
Rhaid inni wneud rhagor i gefnogi’r rhai sydd wedi goroesi
camdriniaeth, ac wedi cael digon o gam eisoes.
Rhaid inni hefyd wneud rhagor i amddiffyn trethdalwyr
Cymru, drwy ddarparu gwasanaethau cymunedol effeithiol yn hytrach
na lleoliadau trin drud y tu allan i’r ardal.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau
GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin
Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn
gwneud hynny.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Wrecsam
· Gogledd Cymru